A yw Kombucha yn dda i chi?
Mae bwydydd wedi'u eplesu fel iogwrt, sauerkraut a kefir i gyd yn cynnwys micro-organebau byw. Gan fod kombucha yn gynnyrch wedi ei eplesu, cynhyrchir nifer o facteria probiotig. Mewn niferoedd penodol, gall bacteria probiotig helpu i gydbwyso microbiome'r perfedd a gwella treuliad.
Er budd iechyd a lles rydym yn argymell i chi gael gwydraid o ein kombucha bendigedig peth cyntaf yn y bore.
Cewch eich adfywio a’ch adnewyddu gyda'n kombucha clir, pefriog. Cyfuniad perffaith o synhwyrau blodeuog y melys a’r sych.
Gwneir ein kombucha Teioni o de gwyrdd Jasmine o ansawdd uchel. Mae hyn, ynghyd â'r Fam Scoby sy’n 20 oed, (a grefftir yn dyner mewn sypiau bach), yn creu kombucha naturiol befriog , adfywiol.
Mwynhewch bob dydd ar gyfer eich iechyd neu ei yfed gyda eich hoff pryd o fwyd.
Gofalu am Teioni
Mae Teioni Kombucha yn gynnyrch byw a fydd yn parhau i eplesu yn y botel ac oherwydd hyn mae'n well ei gadw yn yr oergell a'i fwynhau'n oer. Cymerwch ofal wrth agor y botel oherwydd efallai y byddwch chi'n clywed pop o’r ffis.